Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Yn Ynys Môn cewch y deifio gorau yn y byd

Mae Scott Waterman wedi bod yn arwain deifio oddi ar arfordir Ynys Môn ers blynyddoedd, ac mae’n haeru mai yn yr ardal hon mae’r deifio gorau yn y byd.

“Efallai y byddwch yn fy nghyhuddo o ffafriaeth, ond er bod y Môr Coch efallai’n gliriach, ac ardaloedd eraill yn fwy amrywiol, ffrwythlon a lliwgar, mae Môn oherwydd ei bod yn ynys yn cynnig gwrthgyferbyniad; cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn, gyda chyfaredd yr holl longddrylliadau a chreigiau tanddwr, llawer ohonynt heb eu canfod eto. Pan rydych yn meddwl am y peth, dim ond awr a hanner o waith gyrru sydd gennych o unrhyw un o ardaloedd deifio da’r ynys”.

Mae Scott, sy’n gweithio o Sw Môr Ynys Môn, ble mae ei fusnes deifio yn bwriadu sefydlu canolfan hyfforddi i ddechreuwyr a deifwyr newydd, yn honni fod naw deg chwech y cant o’i gleientiaid yn dychwelyd i Ynys Môn, ar ôl eu hymweliad cychwynnol. “Mae oddeutu 450,000 o ddeifwyr yn y DU, ac rwyf yn meddwl fod tua hanner ohonynt wedi bod yn Ynys Môn”.

“Mae mor boblogaidd, fel bod y morloi sy’n nofio o amgylch Ynys Seiriol yn dod i’ch cyfarch, fel ffrindiau coll, ac maent yn barod i chwarae. Gellir hudo morloi i wneud un o’u hoff driciau. Os ydych yn troi ar eich cefn, a chwifio eich esgyll, mae’r morloi yn dechrau eu cnoi, ac yna eu hysgwyd o ochr i ochr, fel ci gyda thegan. Mae gan forloi ddannedd andros o finiog, felly rydych wedi cael rhybudd”.

Mae’r bobl sy’n frwd dros ddeifio yn cyrraedd o dros gyfandir Ewrop. “Mae gennym ddeifwyr o’r Almaen sydd eisiau chwilio am U gychod a suddodd oddi ar arfordir y gogledd yn ystod y rhyfel diwethaf, gydag archeolegwyr morol yn hofran o gwmpas y llongddrylliadau a chreigiau tanddwr wedi eu syfrdanu’n llwyr.” Amcangyfrifir, er nad oes neb yn gwybod i sicrwydd, fod 1200 o longddrylliadau o amgylch arfordir Ynys Môn, er mai dim ond 350 ohonynt sydd wedi’u cofrestru.

Mae yma ddeifio i siwtio bob gallu, er argymhellir yn gryf y dylai deifwyr newydd gymryd gwersi, sydd ar gael yn lleol gan Ddeifwyr Ynys Môn yng Nghaergybi.

Mae’r creigiau, yn enwedig oddi ar arfordir gorllewinol, yn fagnet i ffotograffwyr morol, a gyda chymaint o greigiau tanddwr a llongddrylliadau i’w canfod, mae enw Ynys Môn yn wybyddus iawn ymhlith y teulu deifio.

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth