Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Taith diwrnod llawn golff

Clwb Golff Y Tywysogion, Henllys

Gellir teilwrio’r tripiau golff yn ôl eich anghenion. Gweler isod drosolwg byr o bob un cwrs golff ar Ynys Môn.
 

Cyrsiau 18 twll

Mae Clwb Golff Ynys Môn yn enwog am ei grins ardderchog, ei lu o nentydd bychan a’i fywyd gwyllt, a’r cyfan o fewn ardal gadwraeth bwysig.

Clwb Golff Porth Llechog yw’r clwb golff mwyaf gogleddol yng Nghymru, a gall golffwyr weld golygfeydd digymar tuag at Ynys Manaw a mynyddoedd Eryri.

Mae Clwb Golff Y Tywysogion ar dir plasty o’r 13eg ganrif ac yn cynnig eithaf her i olffwyr o bob lefel tra’n mwynhau’r golygfeydd prydferth.

Cwrs ar rostir arfordirol yw Clwb Golff Caergybi ym Mae Trearddur. Gellir cael golygfeydd 360° tros Eryri, Pen Llyn a Môr Iwerddon.

Cyrsiau 9 twll

Cwrs rhostir yn cael ei gadw’n dda ger Biwmares yw Cwrs Golff Baron Hill Cyf. Mae yma nifer o dyllau heriol a grins ardderchog.

Mae Cwrs Golff y Beach yng nghanol Bae Trearddur, yn ymestyn o’r pentref i’r môr mewnol. Mae yma fryniau bach wedi eu gorchuddio ag eithin, gan wneud y lle yn hynod brydferth.

Mae Cwrs Golff Cyhoeddus Llangefni yng nghanol coed ar gyrion hen dref marchnad Llangefni. Mae’n ddelfrydol i’r glas olffiwr gyda dolydd trefnus ymysg amrywiaeth o sialensau naturiol.

Mae Complecs Golff Penrhyn mewn lle tawel iawn. Mae’r dolydd gyda nifer o lethrau, ac mae’r grins yn rhai heriol.

Tu allan i bentref Benllech y mae Clwb Golff Storws Wen. Mae yna ddolydd a nodweddion dŵr, a grins wedi’u cuddio’n dda, sy’n gwneud y chwarae yn fwy heriol ac yn fwy o hwyl.
 
manylion cyswllt
 
Am unrhyw wybodaeth ynglyn ag ymweliadau’r llongau cysylltwch â Julia McCormack, Cydlynydd:

Ffôn: +0044 (0)7717785641
 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth