Ynys Môn 1939 - 1945
3 Gorffennaf - 24 Rhagfyr 2010
Cipolwg ar fywyd yr ynys yn ystod y cyfnod unigryw yma.
Mae Oriel Ynys Môn yn cynnal arddangosfa unigryw eleni – Ynys Môn 1939 – 1945.
Cynhelir yr arddangosfa rhwng Gorffennaf 3 a Rhagfyr 24, 2010.
Ni ellir arddangosfa fel hon lwyddo heb gymorth trigolion Môn. Os oes gennych chwi, neu aelod o’ch teulu neu ffrindiau, atgofion – creiriau, lluniau ac ati sy’n ymwneud â’r cyfnod hwn – hoffem glywed gennych.
Byddem yn croesawu eitemau sy’n portreadu bywyd dyddiol pobl Môn yn ystod yr Ail Ryfel Byd – pethau fel:
Bywyd cymdeithasol, bywyd ysgol, bwyd, gwaith, ffasiwn
Cysylltwch â ni drwy ffonio 01248 724444 neu drwy ysgrifennu atom yn Oriel Ynys Môn, Rhosmeirch, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TQ neu drwy ebost: oriel@ynysmon.gov.uk