Ceir nifer o warchodfeydd natur lleol a gwarchodfeydd mawr a phwysig led led yr Ynys megis Nant y Pandy, Bae Malltraeth a Chors Malltraeth i enwi ond ychydig. Gellir gweld gwiwerod coch yng Nghoedwig Niwbwrch, diolch i grwpiau cadwraeth ac i rai eraill selog.
Mae’r arfordir, y creigiau a’r clogwyni yn cynnig heidiau anhygoel o adar môr, yn cynnwys gwaelogod, gweilch y penwaig, y fran goesgoch ac adar pal Ynys Seiriol, a gellir mynd ati ar gwch o Fiwmares.
Ar hyd 125 milltir o arfordir rhyfeddol Ynys Môn, (y mwyafrif ohono yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dynodedig) ni cheir golygfa fwy dramatig nag Ynys Lawd, i’r gogledd o Gaergybi gyda’i chreigiau, ei goleudy a’i miloedd o adar môr - adar pal, brain coesgoch a hebogiaid tramor. Mae’n olygfa i ryfeddu a synnu dyn, ac mae canolfan wybodaeth y Gymdeithas Gwarchod Adar yn Nhwr Elin yn drysorfa o wybodaeth.
Mae’r 60 o lynnoedd ar yr Ynys a’r corsydd niferus yn denu cymysgedd mawr o rywogaethau’r corsydd, rhai tymhorol yn ogystal â rhai sy’n byw yno’n barhaol. Mae rhai ohonynt yn eithriadol o brin, ac eto mae Coedwig Niwbwrch yn hawlio mai yno mae’r ail glwydfau fwyaf yn y byd i gigfrain, rhyw 1600 i gyd.
O dan lif Afon Menai, rhed rhai o ddyfroedd llanw mwyaf grymus yr Ynysoedd Prydeinig. Fe all llif Pwll Ceris, fel y’i gelwir, gyrraedd cyflymder o hyd at 8 not rhwng Porthaethwy a Phontydd Britannia, ac eto mae’r fan hon yn gartref i liaws mawr o algâu môr, draenogod môr, lledod, penfras, cimwch a llysywod môr.
Ar hyd ei harfordir, yn ei fforestydd, ei chorsydd, ei thraethau a’i dyfroedd, mae Ynys Môn yn wir yn drysorfa i’r amgylchedd a’r bywyd gwyllt.
Paciwch gamera a beinociwlars, ac ymunwch gyda’r gweddill!