Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Gwybodaeth am y porthladd

Gwasanaethau a chyfleusterau'r porthladd

Gan mai dyma'r porthladd prysuraf i longau gwyliau prysuraf yng Nghymru, yn denu'r llongau mwyaf yn Ewrop, mae staff profiadol bob amser wrth law i helpu gyda phob agwedd ar yr ymweliad ymlaen llaw, wrth i'r llong gyrraedd a thra mae yn y porthladd.
 
Mae tynfad ar gael yn yr harbwr i helpu llongau i angori a throi ac mae yna fws cyflym yn rhad ac am ddim i ganol y dref, i'r ardal siopa a'r atyniadau lleol. Mae digon o le i geir a bysus barcio ar ochr y cei.
 
Bydd croeso cynnes ac adloniant yn eich disgwyl ar ochr y cei, yn cael ei ddarparu fel arfer gan Dîm Twristiaeth Cyngor Sir Ynys Môn. 

Ceir yno hefyd gyngor am atyniadau'r ardal ac am lefydd i siopa ac i weld golygfeydd.
 
Mae angorfeydd dŵr dwfn ar ochr fewnol y morglawdd.  Darperir gwasanaeth peilot ac mae'n rhaid defnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Dim cyfyngiadau ar led rhesymol nag "air draught" o fewn yr harbwr.  Mae gwasanaeth lansio ar gael a'r holl wasanaethau porthladd arferol.
 

Diogelwch

Mae diogelwch yn y porthladd yn bodloni gofynion ISPS.  Mae'r porthladd yn borthladd fferi mawr yn y DU ac felly mae iddo'r safon uchaf o ddiogelwch.  Mae'n cael ei oruchwylio gan system camerâu diogelwch sy'n cofnodi'n ddigidol ac mae tîm diogelwch unswydd ar gael ar y safle 24 awr y dydd.

Y gorsafoedd trên agosaf

Mae Gorsaf Caergybi yn y porthladd ei hun ac yn cysylltu'n uniongyrchol â Lundain, Caerdydd a rhwydwaith rheilffordd y DU.

Pellter i ganol y dref

0.8kms/0.5mls

Meysydd awyr

Maes Awyr Môn (y Fali)  8km/5milltir 
Maes Awyr Lerpwl John Lennon 168km/104milltir
Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion 195km/122milltir

Gwybodaeth angori

Cei Hyd mwyaf y llong Dyfynder mwyaf Lled mwyaf Dyfner yr angorle
Wal cei yr harbwr mewnol 300 metr* 9 metr* 400 metr 12.5 metr
 
Gellir derbyn llongau teithio dros 250 metr o hyd a lled o hyd at 11 metr (Siart Datwm) mewn angorfa ddiogel a chysgodol, lai na milltir oddi wrth le glanio hwylus gydag offer pwrpasol. 

manylion cyswllt

Gwybodaeth am y porthladd

I gael gwybodaeth am unrhyw wasanaethau sy'n cael eu cynnig cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

Harbwr Feistr
Porthladdoedd Stenaline Cyf
Tŷ Stena
Caergybi
LL65 1DQ

Porthladd (24awr) +44 (0)1407 606700
neu'r Harbwr Feistr +44 (0)1407 606775

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth