Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Mae rhywbeth am Mary

Mae Mary Verbick o Minnesota, UDA â diddordeb mewn ynysoedd ac yn chwilfrydig am natur gwyllt gyda brwdfrydedd ar gyfer gerdded. Does dim rhyfedd bod y syniad o gerdded Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn apelgar dros ben. Mae'n cynnig y cyfle i gerdded yr arfordir gyfan, pob 125 milltir ohono.

Fel gweistion Gwyliau Cerdded Ynys Món, casglwyd Mary a'i gwr Don ar ddiwedd bob dydd a'i aduno gyda'i bagiau mewn gwahanol B & B bob nos. Roedd popeth wedi'i mapio ar eu cyfer.

Roedd ein hamser ar Môn yn gyfres gwirioneddol o ddigwyddiadau gwych," meddai Mary. "Roedd y môr a'r cefn gwlad yn hardd. Daethom ar draws cerddwyr eraill yn achlysurol, ond roeddym ar ben ein hunain am y rhan helaeth o'r amser. Yr oedd yn heddychlon, adfywiol ac yn rhamantus. Cerddom ar hyd clogwyni môr, glannau tywodlyd, glannau creigiog, coetiroedd, twyni tywod, corsfeydd, mynydd, glaswelltiroedd - yr wyf yn siwr fy mod yn anghofio rhywbeth. "

"Roeddwn wrth fy modd gyda'r amrywiaeth o blanhigion, adar, y golygfeydd dramatig, y defaid gwlanog, yr awyr ddiddiwedd, y gwynt, y glaw, yr haul, sŵn y môr - popeth."

Cwblhauwyd y llwybr gyfan mewn 11 diwrnod gan Stephen a Lynn Bristow o Warrington. Roedd gan pob diwrnod ei uchelbwynt arbennig ei hun - y chytref adnabyddus o fôr-wennoliaid yng Nghemlyn, er enghraifft, neu eglwys Llanwenllwyfo a agorwyd yn arbennig ar eu cyfer. Mae'n un o'r mannau gorau yn y byd i weld gwydr lliw Fflandrys o'r 16eg ganrif, sy'n rhan o gasgliad teulu Neave.

"Cyfrinach da ydi Ynys Môn," meddai Stephen. "Byddwn yn sicr o ddod yma eto. Nawr ein bod yn ymwybodol o'r holl sydd ar gael, byddwn yn ôl ar gyfer y penwythnosau. Yn wir, rydym yn synnu pam nad ydym wedi dod or blaen."

Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi fynd i'r afael â'r llwybr arfordirol gyfan. Mae'r llwybr wedi ei dorri i ddarnau o ychydig filltiroedd yn unig, y rhan fwyaf ohonynt yn eithaf gwastad ac yn cysylltu â chyfres o lwybrau cerdded treftadaeth neu lwybrau cylchdeithiol. Gallwch, fodd bynnag, ei chanfod yn anodd i wrhsefyll yr her.

Mae rhannau dethol o'r llwybr arfordirol heb unrhyw giatiau neu camfeydd o gwbl, a cheir rhai darnau a all dderbyn cadeiriau olwyn. Am fwy o wybodaeth gweler tudalen Arweinlyfr swyddogol Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

gwybodaeth ddefnyddiol

Crwydro Môn

safleoedd gwe:

Cyngor Sir Ynys Môn - AHNE

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Sŵn y Môr
Lawrlwythwch fersiwn diweddaraf 'Sŵn y Môr', cylchgrawn ar gyfer yr AHNE a'r Llwybr Arfordirol

 

Mae Gwyl Gerdded Ynys Môn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n ffefryn gan ymwelwyr a phobl lleol. Gwelir llyfryn 2010 am fwy o wybodaeth.
 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth