Mae’r goreuon ohonynt yn defnyddio Rhosneigr fel eu prif leoliad, gan gynnal eu digwyddiad tonnau rhydd eu hunain yn y Gwanwyn, digwyddiad mawreddog a phwysig yng nghalendr bordhwylio’r DU.Trefnir hwn o Funsports, siop dda i fordhwylwyr ger lan y môr, gan Dave Buckys a’i dîm.
Rownd y gornel yn ei siop coffi a chrempogau, byddwch yn canfod Alex Tritten, cyn-Bencampwr Barcud Hwylio Prydain, sy’n rhedeg yr Ysgol Barcud Hwylio. Nid oes prinder o diwtoriaid yn y pentref yma...
Ychydig yn llai ymdrechgar, ond llawn mor hwyliog, mae caiacio môr. Eto, yn Ynys Môn cewch ddigonedd o gyngor, tiwtora ac arweiniad.
Nid yn unig ceir cyrsiau, ond hefyd trefnir teithiau. Byddwch angen yr arbenigedd hwn, oherwydd fel y bydd yr holl boblogaeth forol leol yn dweud wrthych – morwyr, brigdonwyr a physgotwyr – gall amodau’r tywydd a’r môr newid yn gyflym o fewn munudau.
Ni ŵyr neb yn well am hyn na phâr o Anglephiles, sef y deifiwr a’r awdur Chris Holden a’r ffotograffydd morol tanddwr Paul Kay.
Mae Chris wedi siartro llongddrylliadau o’r Bermo i Fae Colwyn ac mae ei lyfrau’n nodedig ym myd deifio Gogledd Cymru.
Dywed Paul Kay fod yr Afon Menai, er gwaethaf ei chynnwrf, wedi rhoi iddo’r ffynhonnell fwyaf cynhyrchiol o ffotograffau morol, sy’n denu cynulleidfa fyd-eang.
Bydd yr uchod i gyd yn pledio’n euog i’r cyhuddiad o fod yn Anglephiles!